Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft |
Draft Autism (Wales) Bill |
Llythyr Ymgynghori DAB25 |
Consultation Letter DAB25 |
Ymateb gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) |
Evidence from Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) |
Croesawa UCAC y cyfle pellach hwn i ymateb i ymgynghoriad Paul Davies AC ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig.
Mae UCAC yn undeb sy’n cynrychioli athrawon, arweinwyr ysgol a darlithwyr ym mhob sector addysg ledled Cymru. Bydd ein hymateb yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc o fewn y system addysg.
Tybiwn y bydd llawer mwy o gyrff nag awdurdodau lleol a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig yn cael eu heffeithio gan ofynion y Strategaeth Awtistiaeth arfaethedig a’r rheoliadau a chanllawiau sy’n cyd - fynd â hi; er enghraifft, ym myd addysg, lleoliadau gofal plant, ysgolion nas cynhelir, Colegau Addysg Bellach a phrifysgolion.
Fodd bynnag, efallai mai priodol yw enwi awdurdodau lleol a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel y cyrff a fydd yn bennaf gyfrifol am weithredu’r Strategaeth.
Barn UCAC yw y byddai’n werth ystyried rhoi pŵer o’r fath, er mwyn gallu sicrhau c ydymffurfiaeth petai wir angen.
Awgrymwn y gallai fod yn ddoethach rhestru’r gweithwyr proffesiynol mewn rheoliadau er mwyn cadw hyblygrwydd i addasu’r rhestr. Ymhellach, cynigiwn y gallai fod yn briodol cynnwys rhywun o fyd addysg yn achos plentyn neu berson ifanc.
Mae angen bod yn ymwybodol o’r anawsterau o ran cael gwasanaethau a darpariaeth arbenigol, gan gynnwys asesiadau diagnostig, trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswn arnoch i sicrhau yng ngeiriad y Bil nad yw gofynion/anghenion iaith Gymraeg yn gallu rhwystro mynediad at wasanaethau.
Unwaith eto, awgrymwn efallai mai mewn rheoliadau y dylid rhoi’r lefel hyn o fanylder , a hynny er mwyn i)sicrhau lefel uwch o hyblygrwydd dros amser.
Awgrymwn y dylid casglu data ynghylch anghenion/gofynion ieithyddol y personau dan sylw mewn perthynas â’r Gymraeg, ac unrhyw ddata perthnasol ynghylch effaith yr anghenion/gofynion hynny ar ddarpariaeth gwasanaethau, er enghraifft, a ddarparwyd yn y Gymraeg yn unol â’r terfynau amser sydd wedi’u nodi yn y Strategaeth a/neu mewn canllawiau, neu a fu oedi neu anawsterau?
Nid yw’r Bil drafft ar hyn o bryd yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg. Pwyswn arnoch i gynnwys cymalau yn y Bil sy’n nodi gofynion penodol mewn perthynas â’r Gymraeg, neu’n cyfeirio at ddeddfwriaeth berthnasol arall. Mi ellid cyfeirio at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i weld sut yr ymdriniwyd â’r mater yno.
O brofiad, gwyddom fod aros yn fud ar y mater hwn, gan gymryd yn ganiataol fod deddfwriaeth arall (e.e. Safonau’r Gymraeg dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) yn gwneud yr hyn sydd ei angen, yn arwain at broblemau o ran sicrwydd gwasanaethau. Rhaid bod yn gwbl ‘explicit’ am y disgwyliadau, a gellid cyfeirio at y Safonau ble mae’r rheiny’n berthnasol, ond yn sicr mi fydd meysydd y mae’r Strategaeth Awtistiaeth yn cyfeirio atynt ble na fydd y Safonau’n berthnasol neu’n ddigon cryf, ac mae cyfle yn y Bil i osod y safon yn uwch er budd unigolion ar y sbectrwm awtistiaeth.
Mi fydd yn hollbwysig i blant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth fod darpariaethau’r Bil arfaethedig hwn yn cyd-fynd â darpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru); mi fydd hynny’n greiddiol o safbwynt y sawl sy’n ceisio gweithredu darpariaethau’r Biliau yn ogystal, er enghraifft Cydlynwyr Anghenion Dysgu Arbennig mewn ysgolion a cholegau addysg bellach.